Bil Seilwaith
Prif ddibenion y Bil yw:
-
sefydlu proses cydsynio seilwaith unedig ar gyfer mathau penodedig o seilwaith mawr ar ac oddi ar y môr (hyd at ffin atfor tiriogaethol), gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, gwastraff, dŵr a phrosiectau nwy. Gelwir y math newydd o ganiatâd yn "gydsyniad seilwaith" ("IC") a bydd yn cael ei roi mewn perthynas â phrosiectau sy'n cael eu pennu fel "Prosiect Seilwaith Mawr" ("SIP");
-
darparu bod yn rhaid i ddatblygwyr gael IC ar gyfer SIP. Bwriad yr IC yw cynnwys yr ystod lawn o awdurdodiadau sydd eu hangen er mwyn gweithredu'r datblygiad; a
-
disodli, naill ai'n llawn neu'n rhannol, nifer o gyfundrefnau statudol presennol ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith a rhesymoli nifer yr awdurdodiadau sydd eu hangen i adeiladu a gweithredu datblygiad o'r fath yn un caniatâd.
Sianeli Cyfathrebu CSCC
|Gwefan| Mastodon | Pixelfed | Linkedin |